Hysbysiad o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB)
Bydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn cynnal ei CCB ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023 ar ddydd Gwener 13 Hydref 2023 yn HaverHub, Yr Hen Swyddfa Bost, 12 Stryd y Cei, Hwlffordd, SA61 1BG.
CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL CGGSB
DYDD GWENER 13eg HYDREF 2023
HAVERHUB, YR HEN SWYDDFA POST, 12 STRYD Y CEI, HWLFORDD, SA61 1BG
BYDD COFRESTRU O 9.30 – BYDD Y CYFARFOD O 10.00
RHAGLEN
- Croeso gan Charles Carter – Cadeirydd CGGSB
- Derbyn a chymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol agynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023
- Derbyn Cyfrifon Archwiliedig ar gyfer a’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-2023
- Penodi Archwilwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2023-2024
- Ethol Ymddiriedolwyr i’r Bwrdd ar gyfer 2023 – 2024
Cofnodion Drafft CCB Ionawr 2023
I archebu eich tocyn cliciwch yma
Mae Bwrdd PAVS yn cynnwys:
Rolau penodedig (3) – Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Ymddiriedolwr â Chyfrifoldeb Arbennig am Gyllid. Yr ymddiriedolwyr etholedig sy’n penodi i’r rolau hyn trwy broses recriwtio agored.
Ymddiriedolwyr etholedig (7) – Wedi’u henwebu a’u hethol gan aelodau llawn PAVS yn y CCB.
Caiff ymddiriedolwyr eu hethol i wasanaethu am dymor o 3 blynedd, a gallant wasanaethu am 3 thymor olynol (9 mlynedd), cyn gorfod ymddeol o’r Bwrdd. Bob blwyddyn, mae traean o’r Ymddiriedolwyr yn ymddeol o’u swyddi yn y CCB, gan ymddeol yn eu tro yn ôl nifer y blynyddoedd a wasanaethwyd. Mae Ymddiriedolwyr PAVS yn cynnwys Cyfarwyddwyr y Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Ymddiriedolwyr yr Elusen. Mae cynrychiolydd o Gyngor Sir Penfro yn eistedd fel ymgynghorydd i’r Bwrdd. Ar hyn o bryd, mae 2 le gwag ar gyfer aelodau etholedig y Bwrdd.
AELODAU PRESENNOL Y BWRDD
Cadeirydd: Charles Carter
Is-gadeirydd: Claire Incledon
Ymddiriedolwr â Chyfrifoldeb Arbennig am Gyllid: Jayne Tucker
Ceri Crichton
Helen Murray
Barbara Priest
Ted Sangster
Sue Whitbread
Ymgynghorydd CSP: Cyng. Delme Harries
GWNEUD ENWEBIAD
Dewiswch eich enwebai. Gall pob aelod-sefydliad enwebu un person gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu.
- Sicrhewch gytundeb eich enwebai a gofynnwch iddynt lofnodi a llenwi’r ffurflen cydsynio i’r enwebu a’r adran crynodeb
- Llenwch y ffurflen enwebu a dewch o hyd i eilydd i’r enwebiad.
Cydsynio i’r Enwebu a Chrynodeb
Pecyn gwybodaeth ymddiriedolwyr
Os byddai’n well gennych gael copi caled o’r papurau a/neu os hoffech sgwrs anffurfiol cyn enwebu, cysylltwch â Rheolwr Gweithrediadau Busnes PAVS, Maudie Hughes, ar 07816 182 184 neu e-bostiwch maudie.hughes@pavs.org.uk , os gwelwch yn dda.