BBC Children in Need Big Sky Funding Programme / BBC Plant mewn Angen Cynllun Awyr Fawr

Thursday/ Dydd Iau 27.06.24

10am – 11.15am (Online/ Ar-lein)

PAVS is pleased to host James Bird, Impact Manager for BBC Children in Need Wales, for an online Meet the Funder event.

James will present this session, for Pembrokeshire groups who support young people, on the Big Sky Funding Programme and answer your questions.

As part of their work to support children and young people in rural areas, BBC Children in Need would like to encourage more projects to take advantage of their invite only Big Sky Programme programme for organisations working in rural areas.

This programme makes awards of up to £5,000 for:

  • Grass roots organisations
  • early intervention approaches supporting the emotional wellbeing and mental health of children aged 8-13 years living in isolated communities, such as in Pembrokeshire

Following the session groups will have the opportunity to discuss their project ideas with the Fund Officer,  and those felt to be a suitable fit with the priorities will be invited to submit an application. This approach ensures that applicants meet the minimum eligibility criteria.

The Zoom link will be sent to all groups registering to attend the event and you can read more about the initiative here; Big Sky Programme – BBC Children in Need. Book on to the session here.

*****************************

BBC Children in Need Big Sky Funding Programme Meet the Funder / BBC Plant mewn Angen Cynllun Awyr Fawr

Thursday/ Dydd Iau 27.06.24

10am – 11.15am (Online/ Ar-lein)

Mae’n bleser gan PAVS groesawu James Bird, Rheolwr Effaith ar gyfer BBC Plant mewn Angen Cymru, i ddigwyddiad Cwrdd â’r Cyllidwr ar-lein.

Bydd James yn cyflwyno’r sesiwn hon ynghylch Rhaglen Awyr Fawr ar gyfer grwpiau yn Sir Benfro sy’n cynorthwyo pobl ifanc, er mwyn ateb eich cwestiynau.

Fel rhan o’u gwaith i gynorthwyo plant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, hoffai BBC Plant mewn Angen annog mwy o brosiectau i fanteisio ar eu Rhaglen Awyr Fawr sydd ar gael trwy wahoddiad yn unig, ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r rhaglen hon yn dyfarnu hyd at £5,000 ar gyfer:

lMudiadau llawr gwlad

ldulliau gweithredu ymyrraeth gynnar sy’n cynorthwyo iechyd meddwl a lles emosiynol plant 8-13 oed sy’n byw mewn cymunedau anghysbell, megis yn Sir Benfro

Yn dilyn y sesiwn, bydd grwpiau yn cael y cyfle i drafod eu syniadau am brosiectau gyda Swyddog y Gronfa, ac estynnir gwahoddiad i’r rhai y teimlir bod eu syniadau yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau i gyflwyno cais.  Mae’r dull gweithredu hwn yn sicrhau bod ymgeiswyr yn bodloni’r meini prawf gofynnol er mwyn bod yn gymwys.

Anfonir y ddolen Zoom at yr holl grwpiau sy’n cofrestru i fynychu’r digwyddiad, a gallwch ddarllen mwy am y fenter yma;  Rhaglen Awyr Fawr – BBC Plant mewn Angen.  Archebwch le ar y sesiwn yma.

Similar Posts