Lansio Gwobrau Gwirfoddoli Sir Benfro 2023!
Y tro hwn…
Lansio Gwobrau Gwirfoddoli Sir Benfro 2023!
Mae Gwobrau Gwirfoddoli Sir Benfro yn gyfle i daflu goleuni ar yr arwyr di-glod, yn aml, yn y sector gwirfoddoli- y gwirfoddolwyr.
Mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser a’u hymrwymiad i sefydliadau ar draws #SirBenfro, hebddyn nhw byddai cymaint ddim yn digwydd.
Dyma ein cyfle i ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud a gadael iddyn nhw wybod cymaint rydyn ni’n eu gwerthfawrogi.
Mae 7 categori gwahanol, o gategorïau unigol a grŵp i gategori unigol I unigiolyn lle mae gwirfoddoli wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd y gwirfoddolwr hwnnw (Gwobr Mary Sigley).
I lenwi ffurflen enwebu bydd angen caniatâd y gwirfoddolwr arnoch chi, ac mae angen gwybod ychydig amdanyn nhw – a llawer am eu gwirfoddoli (a pheidio â bod yn gysylltiedig â nhw).
Mae ffurflen ‘Awgrymiadau Da’, a ffurflen enwebu yma https://padlet.com/volforpembs/celebrate
Y dyddiad cau yw 29 Medi 2023
Newydd ar gyfer 2023 – byddwn yn derbyn enwebiadau fideo, siaradwch â ni cyn i chi ddechrau er mwyn i ni roi gwybod i chi sut i gyflwyno eich enwebiad, 07790 809768 / volunteering@pavs.org.uk
Diolch yn fawr iawn i South Hook LNG am eu cefnogaeth barhaus.
#WythnosYGwirfoddolwyr
PAVS – Pembrokeshire Association of Voluntary Services
Hwb Cymunedol Sir Benfro – Pembrokeshire Community Hub
#PembsVolAwards23