Cadw’n Gynnes ac yn Iach yn Sir Benfro’r gaeaf hwn
Wrth i’r tymheredd ostwng, mae’r rhaglen Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach yn barod i gynorthwyo bobl ledled Sir Benfro, gan helpu aelwydydd i reoli pwysau parhaus costau byw ac aros yn gynnes ac yn iach adref y gaeaf hwn.
O dan arweiniad Hwb Cymunedol Sir Benfro, mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), ac ystod eang o asiantaethau gan gynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Gwasanaethau Brys, a’r Sector Gwirfoddol, nod yr ymgyrch yw cysylltu unigolion a theuluoedd â gwybodaeth leol a chymorth ymarferol hanfodol.
Ar draws Sir Benfro, mae cymunedau a sefydliadau’n gweithio’n galed i ddarparu atebion lleol, fel mannau cynnes, croesawgar, prydau poeth, gweithgareddau cymunedol, a chyngor ar ynni, arian, a rheoli dyled.
Eleni, mae mannau cynnes yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, ac yn cael eu gweinyddu gan PAVS trwy’r Gronfa Gweithredu Cefnogi Cymunedau (SCAF). Mae’r mannau hyn yn cynnig cyfle i gwrdd ag eraill, cyfranogi mewn gweithgareddau, a mwynhau pryd o fwyd cynnes. Er enghraifft, mae’r Crymych Arms wedi ail-lansio ei gynllun ystafell gynnes wythnosol poblogaidd. Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor gwirfoddolwyr: “Rydyn ni mor ddiolchgar i PAVS a’r tîm Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach am ddarparu’r cyllid cymorth i ganiatáu i ni ddosbarthu’r prydau bwyd am bris is i bobl leol. Mae’n wych bod y gymuned yn cael cyfle i ddod ynghyd ar brynhawn Iau, mwynhau man cynnes, a rhannu pryd bwyd fforddiadwy wedi’i goginio.”
Am fap o fannau cynnes ar hyd a lled Sir Benfro ewch i www.pembrokeshirecommunityhub.org.uk neu ffoniwch 01437 723660.
Cysylltwch â Hwb Cymunedol Sir Benfro os oes arnoch angen gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal. Bydd y tîm yn trafod eich sefyllfa ac yn eich cysylltu â’r grŵp neu’r gwasanaeth cymunedol cywir, gan weithio ochr yn ochr â thîm Cysylltwyr Cymunedol Sir Benfro. Mae llawer o gymorth ar gael yn lleol ac ar draws Cymru.
Dywedodd Sophie Buckley, Rheolwr Rhaglen Cryfhau Cymunedau yn PAVS: “Ein nod yw sicrhau bod pawb yn Sir Benfro yn gwybod ble i droi i gael cymorth – boed hynny’n cael mynediad at fannau cynnes, cyngor ariannol, cymorth bwyd, neu adnoddau cymunedol. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu’r anawsterau hyn ar eu pen eu hunain. Gall unrhyw un sy’n poeni am sut maen nhw’n mynd i fforddio talu eu biliau’r gaeaf hwn, aros yn gynnes neu brynu’r hanfodion, gysylltu â’m cydweithwyr yn Hwb Cymunedol Sir Benfro. Fe gewch groeso cynnes gan dîm cyfeillgar iawn, a all gael sgwrs gyda chi am y cymorth sydd ar gael. Mae gan yr Hwb ymagwedd hawdd ‘un alwad, dyna’r cyfan’, felly ffoniwch 01437 723660, neu gallwch anfon e-bost at enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org”.
