Posted time 1 October 2026 Location PAVS Haverfordwest Job type Trustee, Volunteer

Mae PAVS yn chwilio am Ymddiriedolwr newydd â Chyfrifoldeb Arbennig am Gyllid.  Mae hon yn swydd ddi-dâl, sy’n ychwanegu gwerth at gymunedau a thrigolion Sir Benfro drwy gefnogi gwaith y mudiad ar lefel strategol.

Gallai’r rôl hon fod yn ddeniadol i rywun sydd â phrofiad o weithio gyda phwyllgorau, ac sy’n deall cynllunio strategol at ddibenion gweithredol ac ariannol, yn ogystal â sgiliau gosod cyllidebau.  Mae’r rôl yn gofyn hefyd am ddealltwriaeth o’r safonau llywodraethu ac ariannol a osodwyd gan Dŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.

Byddwch yn dod â sgiliau rhyngbersonol cryf i gefnogi’r Bwrdd, a bydd angen i chi allu neilltuo amser i waith PAVS (cyfartaledd o tua un diwrnod bob chwarter) i fynychu Cyfarfodydd Bwrdd, gweithgorau, cyfarfodydd rhanbarthol, cyrsiau, digwyddiadau ac ati.  Y cyfnod lleiaf yn y swydd yw tair blynedd, gydag uchafswm o naw mlynedd.

Mae’r Bwrdd yn gweithio’n agos gyda Phrif Swyddog PAVS, i helpu i arwain materion strategol a chynllunio ariannol.  Bydd gwir angerdd am waith y trydydd sector yn Sir Benfro yn bwysig, ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o’r Sir, ei thrigolion, ei lleoedd, ei heriau a’i chyfleoedd.

Mae PAVS yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn elusen.  Mae ganddo fwrdd o 10 Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr, gyda thair o’r swyddi hyn – sef y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Ymddiriedolwr â Chyfrifoldeb Arbennig am Gyllid – yn cael eu penodi drwy broses recriwtio agored a chyfweliad.  Fel Ymddiriedolwr PAVS, bydd lefel benodol o gyfrifoldeb a disgwyliadau yn gysylltiedig â’r rôl, a gellir dod o hyd i’r manylion ar wefan y Comisiwn Elusennau.  Disgwylir i chi gefnogi a hyrwyddo gwerthoedd y mudiad, sef:

  • Rhagoriaeth
  • Cynhwysiant
  • Brwdfrydedd
  • Arloesedd
  • Cydweithio
  • Caredigrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl a PAVS, cliciwch yma

I fynegi eich diddordeb mewn gwneud cais am y rôl, anfonwch gopi o’ch CV, ynghyd â datganiad cefnogi yn amlinellu eich sgiliau a’ch profiad a’r rheswm pam yr hoffech gael eich ystyried, at ymholiadau@pavs.org.uk

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 30 Tachwedd 2026