Posted time 24 February 2026 Job type Part-time

Gwasanaeth Cymorth Ynni Craffach Sir Benfro (PSESS); gwasanaeth cyngor ynni cartref a sefydlodd CARE ac sydd wedi bod yn rhedeg yn gyson gyda staff hyfforddedig yn y swydd ers mis Ebrill 2021.

Yn y rôl newydd hon, wedi’i hehangu o’n rôl swyddog prosiect flaenorol, byddwch yn helpu i ddarparu gwasanaeth allgymorth ac effeithlonrwydd ynni i drigolion Sir Benfro a’r ardaloedd ar y ffin â’r sir hon yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.

Ochr yn ochr â darparu gwasanaeth cyngor 1-1 i gartrefi, byddwch yn helpu i ddatblygu a rhedeg rhaglen addysgol a hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cwmpasu ac adeiladu rhwydwaith hyrwyddwyr ynni gwirfoddol gyda’r cyhoedd yn yr ardal wledig y mae Cwm Arian yn gweithio ynddi.

PROSES RECRIWTIO

E-bostiwch recriwtio@cwmarian.org.uk am ragor o wybodaeth