|

Cwrdd â'r Tîm - Lee Hind

Dewch i gwrdd â Lee Pavs Rheolwr Hwb Cymunedol Sir Benfro

Sut beth yw diwrnod ym mywyd Rheolwr Hyb Cymunedol?
Rwy’n rheoli pob agwedd ar Hyb Cymunedol Sir Benfro, yn delio â galwadau, yn ateb ymholiadau gan gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol ac yn cefnogi’r tîm. Rwyf hefyd yn mynychu cyfarfodydd gyda chyllidwyr a chydweithwyr i bennu ein cyfeiriad strategol fel Hyb. Rydym wedi bod yn cefnogi ein gwesteion Wcreineg gyda lles, gweithgareddau cymdeithasol a chael mynediad at wasanaethau. Rwyf hefyd yn darparu hyfforddiant diogelu ar gyfer y 3ydd sector ac eraill, yn Sir Benfro.

Beth yw eich hoff le yn Sir Benfro i ymweld ag ef?
Mae fy hoff le ym Mhenfro yn dipyn o un rhyfedd, ond dwi wrth fy modd gyda’r olygfa wrth fynd i Niwgwl o Hwlffordd – mae cilfan ar y chwith wrth i chi fynd lawr yr allt a dwi wrth fy modd yn eistedd yno ac yn edrych ar yr olygfa.

A oes grŵp neu fudiad cymunedol yn Sir Benfro yr ydych yn gyffrous yn ei gylch ar hyn o bryd?
Mae cymaint o brosiectau a grwpiau anhygoel yn gwneud pethau gwych yn Sir Benfro ac mae pŵer gweithredu gwirfoddol yn glir i bawb. Dau grŵp y mae'n rhaid i mi eu crybwyll serch hynny yw'r Queens Hall Arberth a Grŵp Brodyr a Chwiorydd Sir Benfro - dwy elusen wahanol iawn ond y ddwy yn gwneud gwaith gwych.

Oes gennych chi unrhyw hobïau neu ddiddordebau?
Rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda theulu a ffrindiau, ac rwy'n hoffi chwarae pŵl a gwylio pêl-droed.

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?
Mae mor wahanol bob dydd! Dim siawns o ddiflasu yma!

Ffaith hwyliog amdanoch chi?
Mae gen i un llygad sy'n fwy na'r llall!

Similar Posts