Gwasanaeth Cymorth Ynni Craffach Sir Benfro (PSESS); gwasanaeth cyngor ynni cartref a sefydlodd CARE ac sydd wedi bod yn rhedeg yn gyson gyda staff hyfforddedig yn y swydd ers mis Ebrill 2021.
Yn y rôl newydd hon, wedi’i hehangu o’n rôl swyddog prosiect flaenorol, byddwch yn helpu i ddarparu gwasanaeth allgymorth ac effeithlonrwydd ynni i drigolion Sir Benfro a’r ardaloedd ar y ffin â’r sir hon yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.
Ochr yn ochr â darparu gwasanaeth cyngor 1-1 i gartrefi, byddwch yn helpu i ddatblygu a rhedeg rhaglen addysgol a hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cwmpasu ac adeiladu rhwydwaith hyrwyddwyr ynni gwirfoddol gyda’r cyhoedd yn yr ardal wledig y mae Cwm Arian yn gweithio ynddi.
PROSES RECRIWTIO
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16/03/26
- Cyfweliadau: 08/04/26
- I wneud cais: Ewch i www.cwmarian.org.uk/jobs
E-bostiwch recriwtio@cwmarian.org.uk am ragor o wybodaeth
