Gweithiwr Cefnogi Plant a Theuluoedd
16 awr yr wythnos – £12.21 yr awr
Amdanom ni.
Mae Canolfan Blant Jig-so yn elusen sefydledig sy’n cynnig cefnogaeth ac amgylchedd chwarae diogel i blant, rhieni a gofalwyr. Rydym yn chwilio am ymgeisydd addas i ymuno â’n tîm cynyddol fel Gweithiwr Cefnogi Plant a Theuluoedd.
Disgrifiad swydd.
Fel Gweithiwr Cefnogi Plant a Theuluoedd byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno sesiynau chwarae a chymorth yn ystod y dydd a thu allan i’r ysgol i blant a’u teuluoedd. Lleolir y swydd yn Aberteifi a’r gymuned a chynhelir y sesiynau yn ystod y dydd, ar ôl ysgol ac ar ddydd Sadwrn.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd gyda’r canlynol:
Hanfodol
Cymhwyster perthnasol e.e. Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar, Chwarae, Addysgu (neu weithio tuag at)
Profiad o weithio gyda phlant, gydag o leiaf 2 flynedd
Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Trwydded Yrru
Dymunol
Medru i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg
Cais
Ar gyfer ymholiadau, disgrifiad swydd llawn a manyleb person e-bostiwch: office@jigso.wales
I wneud cais: Llythyr eglurhaol a CV wedi’u e-bostio i: office@jigso.wales
At sylw: Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 2il Mehefin 16:00
Cyfweliadau i’w cynnal: wythnos yn dechrau 9fed Mehefin