Cydlynydd Asedau a Gweithrediadau
2 diwrnod wythnos
O’r tyrbin gwynt a’r arae solar yn Llanfyrnach a’r Stiwdio yn Hermon, i’r 6 erw o dir yn Nhegryn a’n swyddfeydd rhent amrywiol, mannau gweithdy, ein gêr a’n tŵls, mae asedau Cwm Arian yn creu sylfaen ein hincwm ac yn dal cymaint o botensial i gyflawni ein gweledigaeth.
Bydd y Cydlynydd Asedau a Gweithrediadau yn goruchwylio cynnal a chadw, risg, yswiriant a gweinyddu ar gyfer ein hasedau, ac yn gweithio gyda thîm Cwm Arian, i ymgorffori arferion gorau ar gyfer eu defnydd ar draws prosiectau. Byddant yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer isgontractwyr a rhanddeiliaid allanol a pherchnogion ein hadeiladau rhent, ac yn gwirio cydymffurfiaeth ar gyfer diogelwch ar gyfer eiddo Cwm Arian.
PROSES RECRIWTIO
• Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14/06/26
• Cyfweliadau: 01/07/26
• I wneud cais: www.cwmarian.org.uk/jobs
