{"id":2533,"date":"2023-09-12T16:44:26","date_gmt":"2023-09-12T15:44:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/?p=2533"},"modified":"2023-09-12T16:44:33","modified_gmt":"2023-09-12T15:44:33","slug":"pedwar-penigamp-o-gymru-yn-y-ras-am-wobr-mawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/pedwar-penigamp-o-gymru-yn-y-ras-am-wobr-mawr\/","title":{"rendered":"PEDWAR PENIGAMP O GYMRU YN Y RAS AM WOBR MAWR"},"content":{"rendered":"
Mae pedwar prosiect gwych o Gymru ymhlith yr 17 yn y rownd derfynol o bob rhan o\u2019r DU sy\u2019n apelio am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael eu coroni\u2019n Brosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau\u2019r Loteri Genedlaethol 2023.<\/strong>
Mae Clywch Ni<\/em><\/strong>, prosiect sy\u2019n cael ei redeg drwy Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd i annog sector celfyddydol mwy hygyrch i bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw; elusen cymorth iechyd meddwl yn Sir Benfro, Get The Boys A Lift (GTBAL)<\/em><\/strong>; Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities)<\/em><\/strong>, sydd \u00e2\u2019r nod o ddiogelu siarcod, morgathod, oddi ar Arfordir Cymru tra\u2019n meithrin gwerthfawrogiad newydd o\u2019r amgylchedd tanddwr yng Nghymru; a chlwb p\u00eal-droed LGBTQ+ cyntaf Cymru, Clwb P\u00eal-droed  Dreigiau Caerdydd<\/em><\/strong> – i gyd wedi cyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau\u2019r Loteri Genedlaethol eleni.
Mae Gwobrau\u2019r Loteri Genedlaethol yn dathlu\u2019r bobl a\u2019r prosiectau ysbrydoledig sy\u2019n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian Y Loteri Genedlaethol ac wedi denu mwy na 3,780 o enwebiadau eleni.
Mae\u2019r pedwarawd Cymreig ymhlith 17 ar y rhestr fer o bob rhan o\u2019r DU, a fydd yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus bedair wythnos o 11 Medi<\/em> i 9 Hydref <\/em>i gael ei enwi\u2019n Brosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol y DU. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o \u00a35,000 ar gyfer eu prosiect a thlws eiconig Gwobrau\u2019r Loteri Genedlaethol.
Yn chwifio\u2019r faner dros Gymru yn y categori Celfyddydau, Diwylliant a Ffilm mae Clywch Ni <\/em><\/strong>\u2013 prosiect dan arweiniad pobl Fyddar sy\u2019n archwilio safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rhai sy\u2019n gweithio yn y sector creadigol neu sydd wedi\u2019u hallg\u00e1u o\u2019r sector creadigol. Ers i\u2019r prosiect ddechrau ym mis Chwefror 2021, mae Clywch Ni <\/em>wedi gweithio i sefydlu rhwydwaith o fannau diogel i bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ledled Cymru gyfarfod, rhannu profiadau a rhoi cynnig ar syniadau creadigol. Mae Clywch Ni,<\/em> sy\u2019n cael ei redeg trwy Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, yn helpu i feithrin a datblygu talent, gan annog sector celfyddydol mwy hygyrch i bawb wrth ddod o hyd i atebion i faterion a godwyd gan gyfranogwyr. Yn cynrychioli Cymru yn y categori Cymunedol ac Elusennol mae Get The Boys A Lift (GTBAL)<\/em><\/strong>, sefydliad dielw a lansiwyd gan gr\u0175p o ffrindiau yn Sir Benfro a oedd yn awyddus i annog trafodaethau am iechyd meddwl. Mae\u2019r prosiect wedi mynd o nerth i nerth ers 2016 ac bellach yn cynnig cymysgedd o wasanaethau cwnsela personol ac ar-lein i unrhyw un dros 17 oed. Mae\u2019r t\u00eem yn rhedeg siop ddillad a choffi yn Hwlffordd o\u2019r enw \u2018Our Place\u2019, gan gynnig profiad caffi unigryw lle gall ymwelwyr sgwrsio \u00e2 chynghorwyr a gwneud ffrindiau newydd. Mae gwasanaeth galw heibio\u2019r prosiect wedi darparu cymorth hawdd a rhad ac am ddim i tua 500 o bobl ac mae ei wasanaeth cwnsela ar-lein, a lansiwyd yn ystod y pandemig, hefyd yn rhoi\u2019r opsiwn i gleientiaid gael sesiynau o bell.
Yn gobeithio gwneud sblash mawr yn y categori Treftadaeth eleni mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities)<\/em><\/strong>. Mae\u2019r amgylchedd morol ar hyd arfordir Cymru yn gyforiog o fywyd ac mae Prosiect SIARC<\/em> yn gwneud popeth o fewn ei allu i wneud pethau hyd yn oed yn well. Mae\u2019r rhaglen, a lansiwyd yn 2022, yn dod \u00e2 chymunedau lleol, pysgotwyr, ymchwilwyr, a\u2019r llywodraeth ynghyd i ddiogelu siarcod a\u2019r morgathod, wrth feithrin gwerthfawrogiad newydd ac agor mynediad i amgylchedd tanddwr Cymru. Cyflwynir y prosiect mewn partneriaeth gan ZSL (Cymdeithas S\u0175olegol Llundain), Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Bangor, Blue Abacus, Lleiafrifoedd mewn Gwyddorau Siarcod, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth y Siarcod, Prifysgol Abertawe, a sawl partner cydweithredol.
Yn edrych i sgorio enillydd yn y categori Chwaraeon mae clwb p\u00eal-droed LGBTQ+ cyntaf Cymru, CPD Dreigiau Caerdydd<\/em><\/strong>. Wedi’i sefydlu yn 2008, mae’r clwb wedi dod i’r amlwg fel enghraifft ddisglair o sefydliad lle mae cynhwysiant a derbyniad yn ganolog i’r lle; mae wedi arwain y ffordd o ran darparu cyfleoedd i bobl LGBTQ+ gymryd rhan mewn chwaraeon, gan greu amgylchedd cynnes a chroesawgar a chymuned sy\u2019n cynnwys pob hunaniaeth. Gyda\u2019r nod o ddarparu p\u00eal-droed i bawb, mae CPD Dreigiau Caerdydd<\/em>, sy\u2019n cael ei gefnogi gan arian y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, yn gartref i dri th\u00eem.
Meddai Jonathan Tuchner<\/strong>, o\u2019r Loteri Genedlaethol<\/strong>: \u201cRydym yn falch o fod wedi derbyn cymaint o enwebiadau yn amlygu\u2019r gwaith rhagorol y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn ei wneud ar hyd ac ar led y DU. Nid yw\u2019n gyfrinach fod y rhain yn amseroedd anodd, felly mae\u2019n wych gweld cymaint o bobl a phrosiectau yn ymrwymo cymaint o amser ac egni i roi rhywbeth yn \u00f4l i\u2019w cymunedau. <\/em>
\u201cMae\u2019r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy\u2019n codi mwy na \u00a330 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da, fod gwaith y prosiectau anhygoel hyn yn cael ei wneud yn bosibl.
\u201cMae\u2019r prosiectau yma yn cael effaith anhygoel ar eu cymuned leol ac maen nhw\u2019n llwyr haeddu bod yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn. Gyda\u2019ch cefnogaeth chi, gallent fod yn enillydd.\u201d<\/em>
<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Mae pedwar prosiect gwych o Gymru ymhlith yr 17 yn y rownd derfynol o bob rhan o\u2019r DU sy\u2019n apelio am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael eu coroni\u2019n Brosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau\u2019r Loteri Genedlaethol 2023. Mae Clywch Ni, prosiect sy\u2019n cael ei redeg drwy Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd i annog sector celfyddydol…<\/p>","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_kad_blocks_custom_css":"","_kad_blocks_head_custom_js":"","_kad_blocks_body_custom_js":"","_kad_blocks_footer_custom_js":"","_kad_post_transparent":"","_kad_post_title":"","_kad_post_layout":"","_kad_post_sidebar_id":"","_kad_post_content_style":"","_kad_post_vertical_padding":"","_kad_post_feature":"","_kad_post_feature_position":"","_kad_post_header":false,"_kad_post_footer":false,"_kad_post_classname":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-2533","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-pavs"],"taxonomy_info":{"category":[{"value":1,"label":"PAVS"}]},"featured_image_src_large":false,"author_info":{"display_name":"Maudie Hughes","author_link":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/author\/maudie-hughes\/"},"comment_info":"","category_info":[{"term_id":1,"name":"PAVS","slug":"pavs","term_group":0,"term_taxonomy_id":1,"taxonomy":"category","description":"","parent":0,"count":106,"filter":"raw","cat_ID":1,"category_count":106,"category_description":"","cat_name":"PAVS","category_nicename":"pavs","category_parent":0}],"tag_info":false,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2533","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2533"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2533\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2534,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2533\/revisions\/2534"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2533"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2533"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2533"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}