{"id":2416,"date":"2023-07-18T10:34:02","date_gmt":"2023-07-18T09:34:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/?p=2416"},"modified":"2023-07-18T10:34:06","modified_gmt":"2023-07-18T09:34:06","slug":"rhaglen-newydd-i-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-arweinwyr-yng-nghymru-yn-derbyn-cyllid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/rhaglen-newydd-i-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-arweinwyr-yng-nghymru-yn-derbyn-cyllid\/","title":{"rendered":"Rhaglen newydd i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yng Nghymru yn derbyn cyllid\u00a0"},"content":{"rendered":"<p>Sicrhawyd cyllid wrth Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol i gyflwyno rhaglen datblygu arweinyddiaeth newydd ar gyfer arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y rhaglen hon, a gyflwynir mewn partneriaeth gan Cwmpas, Clore Social Leadership, a CGGC, yn galluogi arweinwyr cymdeithasol i fod yn fwy effeithiol, gwydn, ac ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Jackie Dix, Ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth Caerffili a Blaenau Gwent, cyn-fyfyrwr rhaglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cyfrifoldeb mawr i fod yn ymddiriedolwr, ond mae\u2019n syndod cyn lleied o hyfforddiant sy\u2019n cael ei dargedu at ymddiriedolwyr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Datblygais yn aruthrol fel arweinydd dros y rhaglen, a theimlaf yn awr y gallaf gyfrannu&#8217;n fwy effeithiol fel ymddiriedolwr yn ystod cyfarfodydd bwrdd. Enillais hyder, a chred yn fy ngallu fel arweinydd. Fe wnes i fwynhau gweithio gyda&#8217;r garfan hyfforddi yn fawr iawn, ac rydym wedi cadw cysylltiad trwy sefydlu gr\u0175p cymorth ymddiriedolwyr ar WhatsApp. Roedd meithrin perthnasoedd a gweithio mewn partneriaeth yn bonws enfawr i\u2019r rhaglen.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae arweinwyr cymdeithasol yn gweithio&#8217;n ddiflino ar gyfer dyfodol gwell i&#8217;w cymunedau a&#8217;r gymdeithas ddinesig ehangach. Yn aml yn ddi-d\u00e2l mae llawer heb gefnogaeth na ddiolch, er eu bod yn gweithio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol a gyda rhai o bobl fwyaf bregus yn gymdeithas. Heb arweinwyr cymdeithasol, byddai llawer o&#8217;r rhaglenni a&#8217;r gwasanaethau y mae cymunedau bregus yn dibynnu arnynt ddim yn gweithredu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u202fMae\u2019r rhaglen yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ond bydd yn creu \u2018datganiad arweinyddiaeth\u2019 newydd i Gymru sy\u2019n nodi beth yw arweinyddiaeth dda yng nghymunedau Cymru. Bydd y datganiad hwn wedyn yn cael ei wreiddio drwy raglen o weithgareddau a arweinir gan y gymuned, yn ogystal \u00e2 gweithgareddau ledled Cymru.\u00a0 \u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dr Sarah Evans, Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghoriaeth, Cwmpas:<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 Clore Social Leadership a CGGC i gyflawni prosiect a fydd yn galluogi cymunedau a gweithwyr proffesiynol o fewn sefydliadau cymunedol i fod yn fwy gwydn, trwy ddatblygu arweinyddiaeth a chefnogaeth. Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio rheolwr prosiect a fydd yn arwain ar y gwaith hwn, mae rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan Cwmpas\u201d.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nadia Alomar, Prif Swyddog Gweithredol, Clore Social Leadership:<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym wrth ein bodd i barhau \u00e2\u2019n prosiect llwyddiannus, Arweinwyr Cymdeithasol Cymru. Rydym yn falch o adeiladu ar ein partneriaeth gref gyda Cwmpas ac yn gyffrous i groesawu CGGC fel partneriaid newydd yn y fenter drawsnewidiol hon. Drwy Arweinwyr Cymdeithasol Cymru, ein nod yw creu ecosystem bwerus sy\u2019n meithrin ac yn grymuso arweinwyr o fewn y trydydd sector, er budd cymunedau ledled Cymru. Credwn yn gryf fod arweinyddiaeth effeithiol yn ganolog i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau cymdeithasol, ysgogi newid cadarnhaol a chael effaith barhaus ar gymdeithas.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sara Sellek, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CGGC<\/strong>&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cBydd y prosiect hanfodol yma rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr a staff cyflogedig o\u2019r sector gwirfoddol gael cymorth datblygu arweinyddiaeth a fydd yn eu helpu i arwain newid cadarnhaol yn eu cymunedau\u201d.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDyfarnwyd y grant o \u00a3450,000 i\u2019r bartneriaeth i ddarparu rhaglen arweinyddiaeth ar-lein i arweinwyr cymdeithasol ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn rhoi\u2019r hyder a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen ar arweinwyr cymdeithasol Cymru i ysgogi newid cymdeithasol. Rydym yn edrych ymlaen at weld llwyddiannau\u2019r arweinwyr y maent yn eu hyfforddi. Mae\u2019r grant hwn yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy\u2019n codi dros \u00a330 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u202fI fod yn rhan o\u2019r rhaglen newydd gyffrous yma, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 phartneriaid y prosiect isod:\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>\u202f\u00a0Sarah Evans, Cwmpas &#8211; <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"mailto:sarah.evans@cwmpas.coop\" target=\"_blank\">sarah.evans@cwmpas.coop<\/a>\u202f\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Nadia Alomar, Clore Social Leadership \u2013 <a href=\"mailto:info@cloresocialleadership.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">info@cloresocialleadership.org.uk<\/a>&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Sara Sellek, CGGC \u2013 <a href=\"mailto:ssellek@wcva.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ssellek@CGGC.cymru<\/a>\u202f&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sicrhawyd cyllid wrth Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol i gyflwyno rhaglen datblygu arweinyddiaeth newydd ar gyfer arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru.\u00a0\u00a0 Bydd y rhaglen hon, a gyflwynir mewn partneriaeth gan Cwmpas, Clore Social Leadership, a CGGC, yn galluogi arweinwyr cymdeithasol i fod yn fwy effeithiol, gwydn, ac ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.&nbsp; Jackie Dix, Ymddiriedolwr Cyngor ar&#8230;<\/p>","protected":false},"author":8,"featured_media":1353,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_kad_blocks_custom_css":"","_kad_blocks_head_custom_js":"","_kad_blocks_body_custom_js":"","_kad_blocks_footer_custom_js":"","_kad_post_transparent":"","_kad_post_title":"","_kad_post_layout":"","_kad_post_sidebar_id":"","_kad_post_content_style":"","_kad_post_vertical_padding":"","_kad_post_feature":"","_kad_post_feature_position":"","_kad_post_header":false,"_kad_post_footer":false,"_kad_post_classname":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-2416","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pavs"],"taxonomy_info":{"category":[{"value":1,"label":"PAVS"}]},"featured_image_src_large":["https:\/\/www.pavs.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/PAVS-HeritageGraphic2-1024x768.png",1024,768,true],"author_info":{"display_name":"Maudie Hughes","author_link":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/author\/maudie-hughes\/"},"comment_info":"","category_info":[{"term_id":1,"name":"PAVS","slug":"pavs","term_group":0,"term_taxonomy_id":1,"taxonomy":"category","description":"","parent":0,"count":106,"filter":"raw","cat_ID":1,"category_count":106,"category_description":"","cat_name":"PAVS","category_nicename":"pavs","category_parent":0}],"tag_info":false,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2416","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2416"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2416\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2417,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2416\/revisions\/2417"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1353"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2416"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2416"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2416"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}