{"id":2390,"date":"2023-07-07T15:41:19","date_gmt":"2023-07-07T14:41:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/?p=2390"},"modified":"2023-07-07T15:41:25","modified_gmt":"2023-07-07T14:41:25","slug":"cydraddoldeb-rhanbarthol-yn-gofyn-am-brofiadau-o-wasanaethau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/cydraddoldeb-rhanbarthol-yn-gofyn-am-brofiadau-o-wasanaethau\/","title":{"rendered":"Cydraddoldeb rhanbarthol yn gofyn am brofiadau o wasanaethau"},"content":{"rendered":"<p>Lansiwyd arolwg rhanbarthol gan bartneriaid y sector cyhoeddus i geisio barn gan bobl ar draws Sir G\u00e2r, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, wrth ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, o iechyd i dai.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y sylwadau yn dylanwadu ar waith ar gydraddoldeb o 2024 hyd at 2028, a sut mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael eu heffeithio a\u2019u trin wrth ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan y sector.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r arolwg yn canolbwyntio ar brif feysydd megis addysg, tai, iechyd, troseddu, hamdden a mynediad at yr arfordir a chefn gwlad. Mae\u2019n gofyn i bobl sgorio eu profiadau o\u2019r gwasanaethau hyn a\u2019u barn am y profiad mae pobl eraill yn ein cymdeithas yn ei gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy\u2019n nodi sut y bydd gwasanaethau\u2019n cael eu darparu a\u2019u bod yn hygyrch i bobl, beth bynnag yw eu hoedran, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu crefydd, eu dewis iaith neu unrhyw anableddau sydd ganddynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru naw o nodweddion gwarchodedig. Mae\u2019r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad o\u2019r enw \u2018A yw Cymru\u2019n Decach?\u2019 (2018). Mae hwn yn nodi cyflwr y genedl wrth edrych ar grwpiau mwy bregus ein cymdeithas. Mae\u2019r arolwg yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a restrir yn yr adroddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan bob corff sector cyhoeddus ddyletswydd i wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy\u2019n rhannu nodwedd a warchodir perthnasol, a\u2019r rheiny nad ydynt<\/li>\n\n\n\n<li>Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy\u2019n rhannu nodwedd a warchodir a\u2019r rheiny nad ydynt<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ochr yn ochr \u00e2\u2019r arolwg hwn byddwn yn ymgysylltu \u00e2 grwpiau cymunedol penodol sy\u2019n cynrychioli ac eirioli dros rhai o\u2019r grwpiau nas clywir yn aml. Mae\u2019r rhain yn cynnwys grwpiau megis pobl Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, neu ffoaduriaid wedi\u2019u hadsefydlu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth T\u00e2n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a\u2019r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi cydweithio i baratoi\u2019r holiadur yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr holiadur yn fyw tan 30 Gorffennaf 2023. Mae&#8217;r arolwg yn cael ei gadw ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, a gallwch ddilyn y ddolen ganlynol:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/linkprotect.cudasvc.com\/url?a=https%3a%2f%2fcarmarthenshire.welcomesyourfeedback.net%2fs%2fSEP2023&amp;c=E,1,Eqbh_Y0XrHgioZ3WibDPdRCzZXJMUm-H7-_WU0MZ9DzFZzfcGGq5LDL51c3t7ifRiEdMy9VvNnIYffNvbxVPPutzz6Dvn9zAPL8obfeJRw,,&amp;typo=1\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Holiadur Cynllun Cydraddoldeb Strategol llyw.cymru (Yn agor mewn tab newydd.)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch weld copi o adroddiad \u2018A yw Cymru\u2019n Decach?\u2019 trwy fynd i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/linkprotect.cudasvc.com\/url?a=https%3a%2f%2fwww.equalityhumanrights.com%2fcy&amp;c=E,1,fehTVQsTq9FmVdFJiIQaEnXHNnaq9rFBaWaCn-h99_oloojIFHu8tpjX2C52Ik2RpOuRfporE9aS7A2cpYrSY3y4xDN5SQBraYH0FQcNVT9ZsLMCUcX0-A,,&amp;typo=1\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cydraddoldeb Hawliau Dynol (Yn agor mewn tab newydd),<\/a>&nbsp;a dewis lawrlwytho\u2019r fersiwn Gymraeg.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Lansiwyd arolwg rhanbarthol gan bartneriaid y sector cyhoeddus i geisio barn gan bobl ar draws Sir G\u00e2r, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, wrth ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, o iechyd i dai. Bydd y sylwadau yn dylanwadu ar waith ar gydraddoldeb o 2024 hyd at 2028, a sut mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael&#8230;<\/p>","protected":false},"author":8,"featured_media":2391,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_kad_blocks_custom_css":"","_kad_blocks_head_custom_js":"","_kad_blocks_body_custom_js":"","_kad_blocks_footer_custom_js":"","_kad_post_transparent":"","_kad_post_title":"","_kad_post_layout":"","_kad_post_sidebar_id":"","_kad_post_content_style":"","_kad_post_vertical_padding":"","_kad_post_feature":"","_kad_post_feature_position":"","_kad_post_header":false,"_kad_post_footer":false,"_kad_post_classname":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-2390","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pavs"],"taxonomy_info":{"category":[{"value":1,"label":"PAVS"}]},"featured_image_src_large":["https:\/\/www.pavs.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/SEP-Poster-CYM-724x1024.jpg",724,1024,true],"author_info":{"display_name":"Maudie Hughes","author_link":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/author\/maudie-hughes\/"},"comment_info":"","category_info":[{"term_id":1,"name":"PAVS","slug":"pavs","term_group":0,"term_taxonomy_id":1,"taxonomy":"category","description":"","parent":0,"count":106,"filter":"raw","cat_ID":1,"category_count":106,"category_description":"","cat_name":"PAVS","category_nicename":"pavs","category_parent":0}],"tag_info":false,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2390","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2390"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2390\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2392,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2390\/revisions\/2392"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2391"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2390"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2390"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pavs.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2390"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}