Goruchwylio a gwerthuso 21 Ebrill
Tiwtor: Sue Leonard / Louise Wilkinson 10.00yb-4.00yh
Lleoliad: PAVS, Hwlffordd
Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y cyfranogwyr:
• yn deall manteision goruchwylio a gwerthuso i staff ac i’r mudiad
• yn gwybod y gwahaniaeth rhwng goruchwylio a gwerthuso
• yn datblygu a gweithredu systemau priodol ar gyfer goruchwylio a gwerthuso
Bydd y sesiwn hwn yn ddefnyddiol ar gyfer: rheolwyr a’r rhai hynny sydd â swyddogaeth goruchwylio neu reoli llinell. Yn benodol ar gyfer y rhai hynny sydd heb oruchwylio a chefnogi staff.
Cod Cwrs: 6e
Cost Cwrs: |
Cyfradd A |
£130 |
Cyfradd B |
£25 |
Cyfradd C |
£18 |
Datblygu eich cylchlythyr 5 Mai
Tiwtor: Louise Wilkinson 10.00yb-1.00yh
Lleoliad: PAVS, Hwlffordd
Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y cyfranogwyr:
• wedi edrych ar amrywiaeth o ddulliau o ran cynhyrchu cylchlythyr
• wedi ystyried elfennau allweddol cylchlythyr
• wedi nodi cynulleidfaoedd targed a sut i deilwra’r cylchlythyr yn unol â hynny
Bydd y sesiwn hwn yn ddefnyddiol ar gyfer: y rhai hynny sy’n paratoi neu sydd ar fin cynhyrchu cylchlythyr ac a hoffai wybod am yr elfennau allweddol ar gyfer cynhyrchu cylchlythyr da.
Cod Cwrs: 10c
Cost Cwrs: |
Cyfradd A |
£65 |
Cyfradd B |
£12.50 |
Cyfradd C |
£9 |
Cyflwyniad i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr 24 Mehefin 10.00yb-4.00yh
Tiwtor: Caroline Graham
Lleoliad: PAVS, Hwlffordd
Bydd y gweithdy undydd yn edrych ar ddatblygu arfer da mewn mentrau gwirfoddol newydd a chyfredol. Bydd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthnasol i redeg rhaglen wirfoddol broffesiynol sy’n cynnwys polisïau trefniadaeth sy’n berthnasol i wirfoddoli, marchnata, recriwtio, sefydlu, hyfforddi, cefnogi a goruchwylio.
Cyfeiria pob adran at raddau gwahanol o reoli gwirfoddol gan dynnu sylw at faterion amrywiol sy’n ymwneud â recriwtio gwirfoddolwyr.
Bydd y sesiwn hwn yn ddefnyddiol ar gyfer: rheolwyr gwirfoddol newydd neu reolwyr gwirfoddol presennol a fyddai’n hoffi gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Bydd y sesiwn hwn hefyd yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr mudiadau sy’n rheoli gwirfoddolwyr.
Bydd pob mudiad fydd yn mynychu’n cael copi o “Becyn Sut i …Ddatblygu Menter Wirfoddol”
Cod Cwrs: 4e
Cost Cwrs: |
Cyfradd A |
£130 |
Cyfradd B |
£25 |
Cyfradd C |
£18 |
Mae’r rhaglenni cwrs yn cynnwys seibiannau cyson ar gyfer te/coffi a darparir cinio pan gynhelir gweithdy diwrnod.
*Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru
Ceir tri chyfradd gwahanol ar gyfer ffioedd cwrs:
Cyfradd A Sector cyhoeddus/preifat
Cyfradd B Grwpiau/unigolion sector gwirfoddol (heb fod yn aelodau)/ Aelodau Cysylltiol PAVS
Cyfradd C Aelodau Cyflawn PAVS/Cynhalwyr yn Sir Benfro
Os nad yw eich mudiad yn aelod llawn o PAVS, pam na wnewch chi ymuno nawr a chymryd mantais o’r
ffioedd cwrs rhatach? Ffoniwch 01437 769422 i gael pecyn aelodaeth.
Yn anffodus oherwydd y nifer uchel o gansladau hwyr rydym yn eu derbyn fe fu rhaid i ni gyflwyno dull o gadw lle tipyn llymach. Ni fedrwn bellach dderbyn ceisiadau am gadw lle dros y ffôn.
Nodwch:
Rydym yn cadw’r hawl i godi ffi weinyddu hwyr am ganslo hyd at £40 am beidio â mynychu cwrs PAVS. Gwneir hyn oherwydd nifer y darpar gyfranogwyr yn tynnu nôl ar y funud olaf neu ddim yn mynychu ar y diwrnod, sy’n effeithio ar hyfywdra’r cwrs. Os nad ydych yn medru mynychu, anfonwch rywun arall yn eich lle neu gadewch i ni wybod yn ysgrifenedig ar bapur os ydych yn dymuno canslo, a hynny o leiaf bythefnos cyn bod y cwrs yn dechrau.
|